Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Gorffennaf 2015

 

 


Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

1.    Ar 1 Rhagfyr 2014, gosododd y Pwyllgor Busnes adroddiad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, yn pennu dyddiad cau o 10 Ebrill 2015 i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) a chyflwyno adroddiad arnynt a dyddiad o 5 Mehefin ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2.

2.    Ar 3 Mawrth 2015, mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cytunodd y Pwyllgor Busnes i osod amserlen diwygiedig yn newid dyddiad cau y Pwyllgor i adrodd ar yr egwyddorion cyffredinol i 8 Mai 2015 ac yn newid y dyddiad i gwblhau trafodion Cyfnod 2 i 17 Gorffennaf 2015.

3.    Cytunwyd egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mehefin 2015, ond nid yw’r cynnig ar y penderfyniad ariannol wedi’i gyflwyno eto. O ganlyniad, ar 14 Gorffennaf 2015, mewn ymateb i gais pellach gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cytunodd y Pwyllgor Busnes i osod amserlen diwygiedig yn newid y dyddiad i gwblhau trafodion Cyfnod 2 i 11 Rhagfyr 2015.